Mae fersiwn Saesneg o’r dudalen hon ar gael yma.
Dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, mae bridwyr ymlusgiaid wedi cynhyrchu nifer helaeth o “morphs” – anifeiliaid gyda diffygion yn eu pigmentiad neu batrymu (neu weithiau’r ddau). Mae’r “morphs” yma’n ddiddorol ynddynt eu hunain, ond i fiolegydd maent yn golygu rhywbeth llawer pwysicach: mwtantiaid. Mae gan fioleg hanes hir o astudio mwtantiaid am eu bod yn gallu bod yn gyfrwng i esbonio sut mae prosesau penodol yn cymryd lle, trwy arddangos beth sy’n digwydd pan fydd y prosesau hynny’n mynd o chwith. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydym wedi bod yn gweithio i ddarganfod y genynnau sy’n gysylltiedig â phatrymu pigmentiad mewn amryw o rywogaethau ymlusgiaid, gan gynnwys y neidr ŷd (Pantherophis guttatus ), y peithon brenhinol (Python regius ) a’r geco mannog ( Eublepharis macularius). Rydym hefyd yn ddiweddar wedi bod yn gweithio gyda pherchnogion a bridwyr yn y fasnach ymlusgiaid anwes i sefydlu’r union newidiadau lefel-DNA sy’n gyfrifol am rai nodweddion genetig dymunol sy’n effeithio ar bigmentiad, yn ogystal â nodweddion llai dymunol fel y diffyg niwrolegol a elwir yn ‘stargazer’.
Gallwch ymuno â ni yn ein hymgais i ddeall sail enetig y nodweddion hyn drwy gefnogi ein hymchwil drwy ddilyn y cysylltiadau isod.